Gall gwrthdaro a chynnen brofi yn gostus, yn emosiynol, yn ariannol ac o safbwynt amser.
Cymerwch y cam cyntaf rhesymegol at gymodi a phennwch ddyddiad i gyfryngu a MEDI gorwelion gwell.
PAM CYFRYNGU?
Mae gwerth cyfryngu wedi ei bwysleisio mewn amryw o achosion proffil uchel yn ddiweddar gan gynnwys The value of mediation has been reinforced in recent high - profile cases (Guardian Alfie evans dolen)
GWASANAETH CYFRYNGU NEWYDD
Wedi cywain profiad helaeth ym maes gwasanaethau plant (gweler crynodeb isod, 'Amdanom Ni' a Curriculum Vitae llawn ar gael) 'rydym yn ymwybodol iawn o'r niwed ddaw yn sgil gwrthdaro sydd heb ei ddatrys. 'Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn lansio Gwasanaeth Cyfryngu newydd, 'Medi – Mediate'. 'Rydym yn argyhoeddedig mai dyma'r ffordd i sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer plant, unigolion a theuluoedd a buddion i weithwyr proffesiynol a sefydliadau.
PAM DEWIS NI?
- ‘Rydym yn weithwyr cymdeithasol cofrestredig ac yn gwbl annibynnol o’r proffesiwn cyfreithiol a’r llysoedd.
- ‘Rydym yn weithwyr proffesiynol medrus gyda phrofiad helaeth mewn gwaith plant a gwaith llys gyda gallu profedig i gydweithio gydag unigolion a gweithwyr proffesiynol er llÊs y plentyn.
- ‘Rydym wedi cwblhau hyfforddiant cyfryngu cydnabyddedig.
- ‘Rydym yn meddu ar sylfaen gwerthoedd gref ac yn cydymffurfio  Dyletswydd Candor a ChÔd Ymddygiad a Moeseg ein corff cofrestru (Cyngor Gofal Cymru)
- ‘Rydym yn meddu ar allu profedig wrth weithio gyda sefyllfaoedd cymhleth a sensitif sydd yn gofyn am sgiliau rhyng bersonol penigamp.
- ‘Rydym yn meddu ar hygrededd bersonol a phroffesiynol, gan roi sylw dyledus i gyfrinachedd ac urddas yr unigolyn bob amser.
- Mae geirdaon ar gael gan ystod eang o unigolion a sefydliadau.
- ‘Rydym wedi gweld effaith a trawma ar unigolion a theuluoedd gall ddod yn sgil gwrthdaro sydd heb ei ddatrys ac yn argyhoeddedig bod ffordd amgen.
- ‘Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn ddwyieithog.
- ‘Rydym yn medru darparu gwasanaeth ar y cyd sydd yn cynnig gwerth ychwanegol.
- ‘Rydym yn cyfrannu at ein cymunedau e.e. cyn Gadeirydd Corff Llywodraethol ysgol a Pherson Cofrestredig Cylch Meithrin a Chlwb ar Ôl Ysgol.
AMDANOM NI
Nia Hardaker ...
Mae gan Non Davies trideg pedair blynedd o brofiad mewn gwaith plant awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol ac o’r herwydd ystod eang o brofiadau a sgiliau gan gynnwys gwaith llys; ymgynghoriaeth gofal plant gan gynnwys cadeirio paneli maethu a mabwysiadu a Rheolaeth Dros Dro ar Uned Fusnes Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru; rheoli prosiect (sefydlu gwasanaethau gan gynnwys Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru a gweithredu rhanbarthol y Fframwaith Maethu Cenedlaethol); awdur annibynnol (Adolygiad Lladdiad Domestig; Adolygiad Achos Difrifol; Adolygiad Ymarfer Plant) ac Hyfforddwr (rhanbarthol a chenedlaethol) gan gynnwys Diogelu a phob agwedd ar y Ddeddf Llesiant a Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014.
CYSYLLTU
Gwefan:
- medi-mediation.co.uk
- medi-mediation.org.uk
- cyfryngu.cymru